….Polyphony

In 2016 we embarked on a yearlong project called Polyphony which was funded through Arts Council of Wales’ lottery scheme. This multi genre project encouraged musicians from different backgrounds to join in group workshops where they could learn from one another and their tutors. Workshops included group music making, song writing and rehearsal sessions as well as exclusive master classes from top professional performers.

We invited musicians from all walks of life to take part in this exciting project which aimed to help them push each other’s musical boundaries as well as their own. Two very different groups of talented musicians got together in Swansea and Narberth to write and play some genre defying music together. With the aid of our expert tutors the musicians worked with each other to hand craft a selection of different songs, each drawing from the experiences and inspirations of all the participants, which were then recorded at a studio in Swansea.

Some of the participants had never been in a band before, and so this was a fantastic opportunity for them to gain experience of working with other musicians. Despite this the musicians worked very well together and were keen to share their musical influences with the group as well as encourage others to do likewise.

..Poliffoni

Yn 2016 dechreuwyd ar brosiect blwyddyn o’r enw Poliffoni a gafodd ei ariannu gan gynllun loteri Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd y prosiect aml-genre hwn yn annog cerddorion o wahanol gefndiroedd i ymuno â gweithdai grŵp lle'r oedd yn bosibl iddynt ddysgu gan ei gilydd a chan eu tiwtoriaid. Roedd y gweithdai yn cynnwys creu cerddoriaeth mewn grwpiau, ysgrifennu caneuon a sesiynau ymarfer yn ogystal â dosbarthiadau meistr egsgliwsif gan rai o’r perfformwyr proffesiynol gorau.

Gwahoddwyd cerddorion o bob math o wahanol gefndiroedd i gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn, a’r amcan oedd eu helpu i wthio ffiniau cerddorol ei gilydd yn ogystal â’u ffiniau personol. Daeth dau grŵp cwbl wahanol o gerddorion dawnus at ei gilydd yn Abertawe ac yn Arberth i ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth oedd yn herio unrhyw genre. Gyda chymorth ein tiwtoriaid arbenigol bu’n cerddorion yn cydweithio er mwyn saernïo detholiad celfydd o wahanol ganeuon, a phob un yn deillio o brofiadau ac ysbrydoliaeth yr holl gyfranogwyr. Yna cafodd y caneuon hyn eu recordio mewn stiwdio yn Abertawe.

Dyma’r tro cyntaf i rai o’r cyfranogwyr chwarae mewn band, ac felly roedd hwn yn gyfle rhagorol iddynt gael profiad o weithio gyda cherddorion eraill. Er hynny, llwyddodd pawb i gydweithio’n hynod o dda, ac roeddynt yn awyddus i rannu eu dylanwadau cerddorol â’r grŵp yn ogystal ag annog eraill i wneud yr un peth.

….

(Any pics or videos)