….25 and LIVE

25 and Live was Community Music Wales' 25th Anniversary Event, a night not only to remember our own achievements but also to celebrate the richness of community music as a movement across Wales.

Our mission is to empower communities through enabling them to participate in music making. We believe passionately that engagement in music has the power to transform lives, can empower individuals, support the growth of emotional intelligence, self-esteem, self-confidence and other transferable skills such as teamwork and communication skills.

Throughout the night there were performances and videos from a small sample of our own projects from recent years. There were also performances from some excellent community groups from around Wales. The artists that performed were: 9Bach, Wonderbrass, Ghostbuskers, Blarpipa (formed on our Biophony Project), Cardiff Gamelan, Cardiff Canton Singers and Canton Drumming Circle.

Thank you to everyone that came and celebrated on the night with us, and a huge thank you to the Hodge Foundation for their kind and generous support of the event. The Hodge Foundation was established by the late Julian Hodge; an entrepreneur and banker who set up 3 banks during his lifetime, as well as having a wider involvement in the business community in Wales.

Finally, we would like to thank all the staff, board, tutors, musicians and funders both past and present who have built the organisation into what it is today and helped to change the lives of many thousands of people over 25 years.

Please browse through the image gallery below to see the fantastic night that was had by all!

..

25 and LIVE

Digwyddiad i ddathlu chwarter canrif o fodolaeth Cerdd Gymunedol Cymru oedd ’25 and Live’, noson i gofio nid yn unig am ein llwyddiannau ni ond hefyd i ddathlu cyfoeth cerddoriaeth gymunedol fel mudiad ledled Cymru.

Ein nod yw grymuso cymunedau drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn creu cerddoriaeth. Rydym yn credu’n angerddol fod ymgysylltiad â cherddoriaeth yn gallu trawsnewid bywydau, yn gallu grymuso unigolion, cynorthwyo twf deallusrwydd emosiynol, hunan-barch, hunanhyder a sgiliau trosglwyddadwy eraill megis sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu.

Drwy gydol y noson cafwyd perfformiadau a fideos o sampl fechan o’n prosiectau ein hunain dros y blynyddoedd diweddar. Cafwyd perfformiadau hefyd gan grwpiau cymunedol rhagorol o bob cwr o Gymru. Yr artistiaid a gymerodd ran oedd: 9Bach, Wonderbrass, Ghostbuskers, Blarpipa (a ffurfiwyd yn ystod ein Prosiect Bioffoni), Gamelan Caerdydd, Cantorion Treganna Caerdydd a Chylch Drymio Treganna.

Diolch i bawb a ddaeth draw i ddathlu gyda ni ar y noson, a diolch yn arbennig i Sefydliad Hodge am eu cefnogaeth hael a charedig i’r digwyddiad. Cafodd Sefydliad Hodge ei sefydlu gan y diweddar Julian Hodge; entrepreneur a bancwr a sefydlodd 3 banc yn ystod ei oes, ac yn ogystal, ymddiddorai yn y gymuned fusnes ehangach yng Nghymru. 

Yn olaf, hoffem ddiolch i’r holl staff, i’r bwrdd, y tiwtoriaid, y cerddorion a’r cyllidwyr - y rhai presennol a’r rhai a fu yn y gorffennol – sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r gwaith o adeiladu’r sefydliad a’i wneud yr hyn ydyw heddiw ac sydd wedi helpu i newid bywydau miloedd lawer o bobl dros gyfnod o 25 mlynedd.

Porwch drwy’r oriel luniau isod i gael gweld y noson anhygoel a gafodd pawb!

….

(Links to pictures and timeline video)