….Biophony..Bioffoni….
….'Biophony' was launched by Community Music Wales in the days leading up to Wales Nature Week in 2017.
This exciting participatory project combined ecological issues, biodiversity awareness and music composition and was funded through Arts Council of Wales’ Lottery participation fund.
Working with local residents, 'Biophony' created new pieces of music for specific topographic areas across Wales including rivers, sea and coast, woodland and upland.
..
Cafodd ‘Bioffoni’ ei lansio gan Cerdd Gymunedol Cymru yn y dyddiau oedd yn arwain at Wythnos Natur Cymru yn 2017.
Roedd y prosiect cyfranogol cyffrous hwn yn cyfuno materion ecolegol, ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a chyfansoddi cerddoriaeth ac fe'i hariannwyd drwy gronfa cyfranogiad Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru.
Drwy weithio â phreswylwyr lleol llwyddodd ‘Bioffoni’ i greu darnau newydd o gerddoriaeth ar gyfer ardaloedd topograffig penodol ledled Cymru gan gynnwys afonydd, y môr a’r arfordir, coetiroedd ac ucheldiroedd.
….
….Woodlands
The first stage of ‘Biophony’ took place in Caerphilly, with walks in The Warren woodland and Nant Y Calch fields, located on the lower slopes of Caerphilly Mountain. Both areas are of environmental importance and are continually under threat from major development.
The project consisted of an environmental talk & field trip in the local area, music composition workshops & masterclasses led by tutors Laura Bradshaw and Neil White. The participants worked towards writing new music based on data collection and inspiration from the local environment. The final day culminated in a performance and recording.
The music composed on this part of the project, titled "Avia" tracked the journey taken by migrating birds, and birdsong was incorporated into the final recordings.
The band formed on the course (Blarpipa) was invited to join Community Music Wales at the Charity's 25th anniversary celebration where they performed "Avia" live.
..Coetiroedd
Cynhaliwyd rhan gyntaf ‘Bioffoni’ yng Nghaerffili, gyda theithiau cerdded yng nghoetir y Warren a chaeau Nant Y Calch, ar odrau Mynydd Caerffili. Mae’r ddwy ardal hon yn bwysig iawn o safbwynt amgylcheddol ac yn parhau i fod dan fygythiad gwaith datblygu ar raddfa fawr.
Roedd y prosiect yn cynnwys sgwrs amgylcheddol a thaith maes yn yr ardal leol, gweithdai a dosbarthiadau meistr cyfansoddi cerddoriaeth dan arweiniad y tiwtoriaid Laura Bradshaw a Neil White. Bu’r cyfranogwyr yn gweithio tuag at ysgrifennu cerddoriaeth newydd oedd yn seiliedig ar gasglu data a ysbrydolwyd gan yr amgylchedd lleol. Roedd y cyfan yn arwain at berfformiad a recordiad ar y diwrnod olaf.
Enw’r gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn ystod rhan hon y prosiect oedd "Avia" ac roedd yn olrhain taith adar mudol, a chafodd cân yr adar ei hymgorffori yn y recordiadau terfynol.
Gwahoddwyd y band Blarpipa a gafodd ei ffurfio yn ystod y cwrs i ymuno â Cerdd Cymunedol Cymru yn nathliad pen-blwydd yr Elusen yn 25 oed – a chafwyd perfformiad byw ganddynt o ‘Avia’.
….
….Sea and Coast
The "Sea & Coast" section of Biophony took place in and around Cardigan Bay, where the local wildlife includes Atlantic grey seals, bottlenose dolphins and harbour porpoises.
Ahead of the music workshops, CMW and Sea Watch Foundation took the musicians on a boat trip around Cardigan Bay to record wildlife and take inspiration from their surroundings. This was followed by two and a half days of music workshops led by composers James Williams and Pete Stacey.
The workshops culminated in an intensive recording session, where the sounds of gongs, guitars, Celtic harps and voices melded with the sounds of the wildlife in Cardigan Bay to create innovative new music.
..Môr ac Arfordir
Cynhaliwyd rhan “Môr ac Arfordir” Bioffoni ym Mae Ceredigion a’r cyffiniau, lle’r mae bywyd gwyllt lleol yn cynnwys morloi llwyd, dolffiniaid trwyn potel a llamhidyddion.
Cyn y gweithdai cerddoriaeth, trefnodd CGC a Sefydliad Seawatch daith mewn cwch i’r cerddorion o amgylch Bae Ceredigion i gofnodi bywyd gwyllt ac i ddwyn ysbrydoliaeth o’u hamgylchedd. Dilynwyd hyn gan 2 ½ diwrnod o weithdai cerddoriaeth dan arweiniad y cyfansoddwyr James Williams a Pete Stacey.
Arweiniodd y gweithdai yn y pen draw at sesiwn recordio ddwys, lle’r oedd seiniau gongiau, gitârs, telynau Celtaidd a lleisiau yn cyfuno â synau bywyd gwyllt Bae Ceredigion i greu cerddoriaeth newydd arloesol.
….
….Rivers
During the rivers section of Biophony, music was composed by the Arts Active group, Cardiff Gamelan, based on data collection of salmon movement and numbers in the river Taff. The workshops were led by Helen Woods and Rhian Workman.
The idea of this project was to examine factual information and show the findings in a musically creative form. The essence of the scientific findings should be subtly obvious within the created music.
..Afonydd
Yn ystod rhan afonydd Bioffoni, cyfansoddwyd cerddoriaeth gan grŵp Arts Active, Gamelan Caerdydd, a oedd yn seiliedig ar gasglu data symudiadau a niferoedd eogiaid yn Afon Taf. Arweinwyr y gweithdai hyn oedd Helen Woods a Rhian Workman.
Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn oedd archwilio gwybodaeth ffeithiol a dangos y canfyddiadau ar ffurf greadigol a cherddorol. Dylid gallu gweld hanfod y canfyddiadau gwyddonol hyn yn gynnil o fewn y gerddoriaeth oedd yn cael ei chreu.
….
….Uplands
The final section of Biophony focused on "Uplands". Beginning in the National Park Visitors Centre in Libanus, the project featured a talk by a Mountain Centre Education Officer and was followed by a guided walk around Mynydd Illtud.
Over the next few days the participants took inspiration from the local surroundings and used data of the surrounding topography and wildlife to create and record music in workshops led by Sarah Harman and Rob Smith.
..Ucheldiroedd
Roedd rhan derfynol Bioffoni yn canolbwyntio ar yr "Ucheldiroedd". Gan ddechrau yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus, roedd y prosiect yn cynnwys sgwrs gan Swyddog Addysg Canolfan y Mynydd, ac yna taith gerdded dywysedig o amgylch Mynydd Illtud.
Dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf ysbrydolwyd y cyfranogwyr gan yr hyn oedd o’u cwmpas ac aethant ati i ddefnyddio data topograffeg a bywyd gwyllt yr ardal i greu a recordio cerddoriaeth mewn gweithdai dan arweiniad Sarah Harman a Rob Smith.
….