….Our Story
The Community Music Wales story began back in 1989 when a group of about 20 musicians from Cardiff attended a public meeting and Cardiff Community Music was formed. Following extensive research, Cardiff Community Music went into partnership with Community Music London to run the first Welsh-based community music tutor training programme. The following year, Cardiff Community Music developed and delivered Wales’ first training programme independently with Arts Council of Wales and European funding, which is still the leading community music training programme 30 years later. The company was registered as a charity in 1991 and changed its name to Community Music Wales in 1992.
Since 1992, CMW was the first to develop the Rock School music format and delivered participatory work extensively across Wales. We hosted Wales’ first music awards held in Cardiff Coal Exchange in 2001, participated in and organised multiple international projects from Columbia to New York to Latvia and pioneered Welsh language initiative Ciwdod and Complete Control Music mentoring scheme and record label. These schemes worked with a host of musicians and supported the early careers of several well-known Welsh artists.
..Ein Stori
Dechreuodd stori Cerdd Gymunedol Cymru yn ôl yn 1989 pan aeth grŵp o tua 20 o gerddorion o Gaerdydd i gyfarfod cyhoeddus gan ffurfio Cerdd Gymunedol Caerdydd. Yn dilyn gwaith ymchwil sylweddol, ffurfiodd Cerdd Gymunedol Caerdydd bartneriaeth â Music Community London er mwyn cynnal y rhaglen hyfforddi tiwtoriaid cerddoriaeth gymunedol gyntaf yng Nghymru. Y flwyddyn ganlynol, aeth Cerdd Gymunedol Caerdydd ati i ddatblygu a chynnal y rhaglen hyfforddi annibynnol gyntaf yng Nghymru gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac o Ewrop. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach hon yw prif raglen hyfforddi cerddoriaeth gymunedol o hyd. Cofrestrwyd y cwmni fel elusen yn 1991 a newidiodd ei enw i Cerdd Gymunedol Cymru ym 1992.
Ers 1992, CGC oedd y cyntaf i ddatblygu’r fformat cerddoriaeth Ysgol Roc a chyflwyno gwaith cyfranogol yn eang ledled Cymru. Gwnaethom gynnal gwobrau cerddoriaeth cyntaf Cymru yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yn 2001, a buom yn cymryd rhan ac yn trefnu nifer o brosiectau rhyngwladol o Golumbia i Efrog Newydd i Latfia gan wneud gwaith arloesol gyda’r fenter Gymraeg Ciwdod a chynllun mentora Complete Control Music a’r label recordio. Bu’r cynlluniau hyn yn gweithio gyda llu o gerddorion gan gefnogi gyrfaoedd cynnar sawl artist adnabyddus o Gymru.
….