….Cascade

Cascade is a four-year training programme for musicians at various stages in their careers, which we deliver with funding from Paul Hamlyn Foundation. The aim of this training initiative has been to develop a framework of support for musicians building up their career portfolios and extending their skills base into participatory music. Support has included community music tutor training courses, specialist courses such as training for musicians working within the mental health setting, placement opportunities, master classes, continued professional development days and mentoring.

Over the four years, we successfully planned and delivered a series of continued professional development days for tutors including performance skills, workshop techniques and master classes in song writing and collaboration. These included advanced rhythms master classes by Ben Lawrence and song writing master classes, personal and business development with Cliff Jones with 60ft Dolls guitarist Rich Parfitt. These were aimed at musicians who were already working within the field but wanted to brush up on technique and knowledge. We also delivered various placement opportunities for musicians who had completed the tutor training courses. This saw freelance musicians shadowing experienced tutors in a variety of community settings such as Oasis Centre for Refugee and Asylum Seekers, various schools and who groups of participants living with disabilities. Throughout the Covid 19 lockdown, we delivered online digital master classes such as using Digilab online, three training courses and 15 music tutoring demonstrations.

Finally, we have published our Community Music Training Handbook created by experienced community musician Sarah Harman, which covers various aspects of community music including workshop skills, budgeting, safeguarding and offers valuable links and information for musicians wishing to establish themselves.

..

Cascade

Rhaglen hyfforddi bedair blynedd yw Cascade i gerddorion ar wahanol adegau yn ystod eu gyrfaoedd, ac rydym yn darparu’r hyfforddiant gyda chyllid gan Sefydliad Paul Hamlyn. Nod y fenter hyfforddi hon oedd datblygu fframwaith o gefnogaeth i gerddorion sy'n datblygu eu portffolios gyrfaol ac ymestyn eu sgiliau sylfaenol tuag at gerddoriaeth gyfranogol. Mae'r cymorth wedi cynnwys cyrsiau hyfforddi tiwtoriaid cerddoriaeth gymunedol, cyrsiau arbenigol e.e. hyfforddiant i gerddorion sy'n gweithio mewn lleoliad iechyd meddwl, cyfleoedd lleoliad gwaith, dosbarthiadau meistr, diwrnodau datblygiad proffesiynol parhaus a mentora.

Dros y pedair blynedd, gwnaethom gynllunio a chyflwyno cyfres o ddiwrnodau datblygiad proffesiynol parhaus i diwtoriaid gan gynnwys sgiliau perfformio, technegau gweithdy a dosbarthiadau meistr mewn ysgrifennu caneuon a chydweithio. Roedd y rhain yn cynnwys dosbarthiadau meistr rhythmau uwch gan Ben Lawrence a dosbarthiadau meistr ysgrifennu caneuon, datblygiad personol a busnes gyda Cliff Jones a Rich Parfitt, gitarydd 60ft Dolls. Roedd y rhain wedi'u hanelu at gerddorion a oedd eisoes yn gweithio yn y maes ond a oedd yn awyddus i roi sglein ar eu techneg a’u gwybodaeth. Hefyd buom yn darparu cyfleoedd lleoliadau gwaith amrywiol ar gyfer cerddorion a oedd wedi cwblhau'r cyrsiau hyfforddi tiwtoriaid. Yma roedd cerddorion llawrydd yn cysgodi tiwtoriaid profiadol mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol fel Canolfan Oasis ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, ysgolion amrywiol a grwpiau o gyfranogwyr sy'n byw gydag anableddau. Drwy gydol cyfyngiadau symud Covid 19, buom yn cynnal dosbarthiadau meistr digidol ar-lein e.e. defnyddio Digilab ar-lein, 3 chwrs hyfforddi a 15 arddangosiad tiwtora cerddoriaeth. 

Yn olaf, rydym wedi cyhoeddi ein Llawlyfr Hyfforddiant Cerddoriaeth Gymunedol a luniwyd gan Sarah Harman, y cerddor cymunedol profiadol. Mae’r llawlyfr yn cwmpasu gwahanol agweddau ar gerddoriaeth gymunedol gan gynnwys sgiliau gweithdy, cyllidebu, diogelu ac mae'n cynnig dolennau a gwybodaeth werthfawr i gerddorion sy'n dymuno sefydlu eu hunain.

….