….Case Study by participant Scott
“I have just finished my final placement with Community Music Wales, at the Music Mix event at St David’s Hall in Cardiff, and what a fabulous experience the whole tutor training course has been.
I came to this course as a music teacher, instrumental tutor, and semi-pro musician. A friend who had taken part in a previous course run by CMW highly recommended it to me. So, with this in mind and with a little experience in running music workshops I decided to apply to attend the course and was pleased to be accepted.
I didn’t quite know what to expect when I started the course. Any workshops I had given before, I did very much following my own and others ideas. I never realised you could train to do it. What I have learnt; is more about myself as a musician, a useful skills-base, and how I relate to a group of workshop participants. Workshop facilitating is not the same as being a classroom teacher, or guitar tutor. It calls for different skills; in nurturing creativity, being inclusive, and facilitating a group of different personalities with different abilities (possibly), and different needs and desires. Community Music Wales has helped me to achieve these.”
..Astudiaeth Achos gan Scott (cyfranog)
“Rydw i newydd orffen fy lleoliad olaf gyda Cerdd Gymunedol Cymru, yn y digwyddiad Music Mix yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, ac mae’r holl brofiad a gefais ar y cwrs hyfforddi tiwtoriaid wedi bod yn un mor anhygoel.
Fe wnes i ddod ar y cwrs hwn fel athro cerdd, tiwtor offerynnol, a cherddor lled broffesiynol. Roedd ffrind i mi a oedd wedi bod ar gwrs blaenorol oedd wedi ei gynnal gan CGC wedi ei argymell yn fawr. Felly, o ystyried hynny a chan fod gen i ychydig o brofiad o gynnal gweithdai cerddoriaeth, fe wnes i benderfynu gwneud cais i fynychu'r cwrs ac roeddwn yn falch o gael fy nerbyn.
Wyddwn i ddim yn iawn beth i'w ddisgwyl pan es i ar y cwrs. Yn y gweithdai oeddwn i wedi’u cyflwyno o'r blaen, fwy neu lai roeddwn i wedi dilyn fy syniadau fy hun a rhai pobl eraill. Doeddwn i erioed wedi sylweddoli y gallech chi gael hyfforddiant ar gyfer hyn. Yr hyn ydw i wedi’i ddysgu? Mwy amdanaf fy hun fel cerddor, rydw i wedi cael sylfaen sgiliau ddefnyddiol, ac wedi dysgu sut rwy'n ymgysylltu â grŵp o bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithdy. Nid yw hwyluso gweithdy yr un fath â bod yn athro mewn dosbarth neu'n diwtor gitâr. Mae'n galw am sgiliau gwahanol; meithrin creadigrwydd, bod yn gynhwysol, a hwyluso grŵp o bersonoliaethau gwahanol a chanddynt alluoedd gwahanol (o bosibl), a gwahanol anghenion a dyheadau. Mae Cerdd Gymunedol Cymru wedi fy helpu i gyflawni'r rhain.”
….