….Case study by Participant Ruth
Ruth holds an HND in Community Theatre and is currently completing a PGCE with a view to Drama teaching. Ruth’s reasons for attending the course were quite specific; She is teaching Musical Theatre as part of her final year of the PGCE. Alongside this, she is setting up a Theatre Company in her local community. Ruth’s musical background is in singing.
Ruth attended the ‘Community Music in the Workplace – Introductory Course’ in Porthcawl.
Ruth found the course beneficial and intends to utilise the skills she has learnt by running ‘Voice Protection’ workshop for both lecturers and students she works with. This will strengthen her current work, complimenting the workshops she currently runs and providing additional support to young people wishing to use their voice but who are not undertaking professional training. Ruth says one of the most valuable elements of the course was learning to use varied approaches when working with different groups and she particularly liked the encouragement and warmth of the teaching.
..Astudiaeth Achos gan Ruth (cyfranogwr)
Mae gan Ruth Ddiploma Cenedlaethol Uwch mewn Theatr Gymunedol ac ar hyn o bryd mae'n cwblhau cwrs TAR ar gyfer dysgu Drama. Roedd rhesymau Ruth dros fynychu'r cwrs yn eithaf penodol. Mae hi'n dysgu Theatr Gerdd fel rhan o'i blwyddyn olaf ar y cwrs TAR. Ochr yn ochr â hyn, mae'n sefydlu Cwmni Theatr yn ei chymuned leol. Cefndir cerddorol Ruth yw canu.
Bu Ruth ar y cwrs ‘Cerddoriaeth Gymunedol yn y Gweithle – Cwrs Cyflwyniadol’ ym Mhorthcawl.
Teimlai Ruth fod y cwrs yn fuddiol ac mae'n bwriadu defnyddio'r sgiliau a ddysgodd arno drwy gynnal gweithdy 'Diogelu Llais' ar gyfer darlithwyr a myfyrwyr y mae'n gweithio gyda nhw. Bydd hyn yn cryfhau ei gwaith cyfredol, gan ategu'r gweithdai y mae'n eu cynnal ar hyn o bryd a rhoi cymorth ychwanegol i bobl ifanc sy'n dymuno defnyddio eu llais ond nad ydynt yn derbyn hyfforddiant proffesiynol. Yn ôl Ruth, un o elfennau mwyaf gwerthfawr y cwrs oedd dysgu sut i ddefnyddio dulliau amrywiol wrth weithio gyda gwahanol grwpiau ac roedd hi'n arbennig o hoff o’r awyrgylch gefnogol a chynnes yn ystod yr addysgu.
….