….Case study on participant Jonathan
Jonathan has worked as a volunteer for Cathays Community Centre in Cardiff, helping to maintain a weekly community-focused teenage youth club. In addition to this, Jonathan worked for Cardiff High School as a Teaching Assistant for learners in need of support and development. He lives in Cardiff Bay and has been actively involved in the Cardiff music scene for the last 5 years. He recently obtained BA (hons) in Popular Music from Glamorgan University (the Atrium) and was interested in using his enthusiasm for music and his musical skills in his work with young people.
Jonathan attended the ‘Community Music in the Workplace – Introductory Course’ in Merthyr Tydfil.
Jonathan enjoyed the interaction of the course and was particularly interested in looking at group dynamics. He already had highly technical music skills in terms of his ability to use a variety of music production software packages and the course showed him ways of sharing these particular skills in a workshop setting.
Jonathan is currently seeking work as a freelance community music tutor; he is looking at building music workshops in youth work and also for groups with specific needs.
..
Astudiaeth Achos gan Jonathan (cyfranogwr)
Bu Jonathan yn gweithio fel gwirfoddolwr yng Nghanolfan Gymunedol Cathays yng Nghaerdydd, yn helpu i gynnal clwb ieuenctid wythnosol i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Yn ogystal â hyn, bu Jonathan yn gweithio yn Ysgol Uwchradd Caerdydd fel Cynorthwyydd Addysgu gan helpu disgyblion a oedd angen cymorth a datblygiad. Mae'n byw ym Mae Caerdydd ac wedi cymryd rhan weithredol yn sîn gerddoriaeth y ddinas yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf. Yn ddiweddar enillodd radd anrhydedd mewn Cerddoriaeth Boblogaidd o Brifysgol Morgannwg (yr Atriwm) ac roedd ganddo ddiddordeb mewn defnyddio’i frwdfrydedd dros gerddoriaeth a'i sgiliau cerddorol yn ei waith gyda phobl ifanc.
Bu Jonathan ar y cwrs ‘Cerddoriaeth Gymunedol yn y Gweithle – Cwrs Cyflwyniadol’ ym Merthyr Tudful.
Mwynhaodd Jonathan yr elfen o ryngweithio ar y cwrs ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn edrych ar ddynameg grŵp. Roedd ganddo sgiliau cerddoriaeth technegol iawn yn barod oherwydd ei allu i ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd cynhyrchu cerddoriaeth a dangosodd y cwrs ffyrdd iddo o rannu'r sgiliau penodol hyn mewn sefyllfa gweithdy.
Ar hyn o bryd mae Jonathan yn chwilio am waith fel tiwtor cerddoriaeth gymunedol llawrydd. Mae’n awyddus i ddatblygu gweithdai cerddoriaeth mewn gwaith ieuenctid a hefyd ar gyfer grwpiau ag anghenion penodol.
….