….Ciwdod

Complete Control Music (CCM) was primarily an English-speaking label and mentoring support programme, so during the early 2000’s we further developed our Welsh language music work and introduced Ciwdod. Ciwdod was a mentoring scheme, training programme and community record label for Welsh speaking artists, which incorporated traits of all of our work. Ciwdod transformed the landscape of Welsh language contemporary music, providing a platform for new bands and developing them in a way that no other organisation, (commercial or voluntary) had previously envisaged. Following its first year, bands that had been involved in the scheme dominated the Radio Cymru Rock and Pop Awards with nominations in 11 out of 12 categories. The knowledge and skills gained by artists through the mentoring scheme saw a sharp rise in new Welsh language ventures, labels, gigs, releases and audiences – from both within Wales and from outside. Ciwdod delivered workshops, programmed gigs, provided training and mentoring, while releasing new Welsh language music through its own record label, which launched bands such as Yr Ods and Threatmantics. This initiative ran until 2016, when the funding for Welsh language music was changed. Since then, we have continued to deliver training and workshops via the Welsh language, while continuing to work with the many Welsh-speaking musicians who came up through the Ciwdod initiative.

..

Ciwdod

Label a rhaglen gymorth mentora Saesneg ei iaith yn bennaf oedd Complete Control Music (CCM), felly yn ystod y 2000au cynnar fe wnaethom ddatblygu ein gwaith cerddoriaeth Cymraeg ymhellach a chyflwyno Ciwdod. Cynllun mentora, rhaglen hyfforddi a label recordio cymunedol ar gyfer artistiaid Cymraeg oedd Ciwdod ac roedd yn ymgorffori nodweddion ein holl waith. Trawsnewidiodd Ciwdod dirwedd cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, gan roi llwyfan i fandiau newydd a'u datblygu mewn ffordd nad oedd unrhyw sefydliad arall, (masnachol na gwirfoddol) wedi'i ragweld o'r blaen. Yn dilyn ei flwyddyn gyntaf, roedd bandiau oedd wedi bod yn gysylltiedig â’r cynllun yn dra amlwg yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru gydag enwebiadau mewn 11 allan o 12 categori. Diolch i’r wybodaeth a’r sgiliau yr oedd yr artistiaid wedi’u cael drwy'r cynllun mentora cafwyd cynnydd sydyn mewn mentrau, labeli, gigs a recordiau Cymraeg oedd yn cael eu rhyddhau a chynulleidfaoedd Chymraeg – yng Nghymru a thu hwnt. Roedd Ciwdod yn cynnal gweithdai, gigs wedi'u trefnu, yn darparu hyfforddiant a mentora, ac ar yr un pryd yn rhyddhau cerddoriaeth Gymraeg newydd ar ei label recordio ei hun – gan lansio bandiau fel Yr Ods a Threatmantics. Bu’r fenter hon yn weithredol tan 2016, pan newidiwyd y cyllid ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg. Ers hynny, rydym wedi parhau i ddarparu hyfforddiant a gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd parhau i weithio â’r llu o gerddorion Cymraeg a ddatblygodd drwy fenter Ciwdod.

….

(You Tube Link)