….Courses, Workshops and Continued Professional Development
Community Music Tutor Training Course
..
Courses Workshops and Professional Development..Cyrsiau gweithdai a Datblygiad Proffesiynol
Cwrs Hyfforddi Tiwtor Cerddoriaeth Gymunedol
….
(VIDEO – JACK AND GEOFF)
….Community Music Wales offers a variety of training from a 5-day introduction to Community Music course, to a 16-week full course which can be tailored to a variety of arts settings including music and multi-arts sessions. We also offer one or half day continued professional development sessions in a variety of disciplines including specific workshop skills, ice breaking sessions, song writing, working with specific needs, to name a few.
Who is it for?
Our courses are available to:
• Experienced musicians who are starting to work in community music
• Musicians who have been working in community settings for some time and who would like to develop their skills music
• Musicians who want to increase their skills, knowledge and understanding in using music in their work with people
• Individuals who have a strong interest in music and have some musical skills
• Individuals who have the drive to inspire and motivate people to make music
..
Mae Cerdd Gymunedol Cymru yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant - o gwrs cyflwyniadol 5 niwrnod i Gerddoriaeth Gymunedol, i gwrs llawn 16 wythnos y gellir ei deilwra ar gyfer amrywiaeth o leoliadau celfyddydol gan gynnwys cerddoriaeth a sesiynau aml-gelfyddyd. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus un neu hanner diwrnod mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys sgiliau gweithdy penodol, sesiynau torri iâ, ysgrifennu caneuon, gweithio gydag anghenion penodol, i enwi rhai yn unig.
Ar gyfer pwy?
Mae ein cyrsiau ar gael i:
Cerddorion profiadol sy'n dechrau gweithio ym maes cerddoriaeth gymunedol
Cerddorion sydd wedi bod yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol ers peth amser ac sy’n dymuno datblygu eu cerddoriaeth sgiliau
Cerddorion sydd eisiau cynyddu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth wrth ddefnyddio cerddoriaeth yn eu gwaith gyda phobl
Unigolion sydd â llawer o ddiddordeb mewn cerddoriaeth a chanddynt rai sgiliau cerddorol
Unigolion sydd â'r penderfyniad a’r egni i ysbrydoli ac ysgogi pobl i greu cerddoriaeth
….
….What are the type of courses?
Our courses offer the opportunity for trainees to explore in depth the principles of community music and the skills needed to deliver high quality, effective workshops with a range of participants. The courses cover both academic and practical principles of community music practice and can then be tailored to include specific training around a variety of characteristics. These can include working within the health and wellbeing sector such as training to work within mental health and with groups living with disabilities. We also offer training which encompasses a wide range of genres of music and other artforms and we also work with a variety of community groups with specific needs.
Core topics covered depending on the course, could include:
• What is community music?
• The role and responsibilities of a community music tutor
• Effective teaching and barriers to learning.
• Working with groups
• Workshop planning, including co-leading.
• Choosing and creating suitable workshop materials
• One to one and group teaching skills
• Dealing with tricky situations
• Equalities in practice
• Methods Practical exercises
• Individual and group work
• Workshop practice
For more information on our current training programme please contact admin@communitymusicwales.org.uk
..
Pa fathau o gyrsiau sydd ar gael?
Mae ein cyrsiau'n rhoi cyfle i hyfforddeion archwilio egwyddorion cerddoriaeth gymunedol mewn manylder a hefyd y sgiliau sydd eu hangen i gynnal gweithdai effeithiol o safon uchel gydag amrywiaeth o gyfranogwyr. Mae'r cyrsiau'n cwmpasu egwyddorion academaidd ac ymarferol cerddoriaeth gymunedol ac yna gellir eu teilwra i gynnwys hyfforddiant penodol o amgylch amrywiaeth o nodweddion. Gall y rhain gynnwys gweithio yn y sector iechyd a lles megis hyfforddiant i weithio ym maes iechyd meddwl a chyda grwpiau sy'n byw gydag anableddau. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant sy'n cwmpasu ystod eang o genres o gerddoriaeth a ffurfiau celf eraill ac rydym hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau cymunedol a chanddynt anghenion penodol.
Gallai rhai o’r pynciau craidd sy’n cael sylw, gan ddibynnu ar y cwrs, gynnwys y canlynol:
Beth yw cerddoriaeth gymunedol?
Rôl a chyfrifoldebau tiwtor cerddoriaeth gymunedol
Addysgu effeithiol ac elfennau sy’n rhwystro dysgu.
Gweithio gyda grwpiau
Cynllunio gweithdai, gan gynnwys arwain ar y cyd.
Dewis a chreu deunyddiau addas ar gyfer gweithdai
Sgiliau dysgu un i un a dysgu grŵp
Delio â sefyllfaoedd heriol
Cydraddoldebau mewn ymarfer
Dulliau – ymarferion dull
Gwaith unigol a grŵp
Ymarfer cynnal gweithdy
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen hyfforddiant gyfredol cysylltwch ag admin@communitymusicwales.org.uk
….