….Llechi

We worked with Pontio Arts and Innovation centre in Bangor, to engage with young people across Gwynedd and Anglesey and deliver a participatory arts project focussing on the slate industries as part of the opening of the centre. We worked with a local artist with extensive experience creating instruments out of natural materials and challenged him to make instruments with community groups across the area, out of slate. We worked with a variety of local groups including Maesgeirchan Youth Club, Llanberris Youth club, and Caernarfon Youth club and enaged with 80 young people. We also engaged with two schools in the area which were Ysgol Tryfan and Ysgol Dyffryn Ogwen. Finally, we worked with Blaenau Ffestiniog mental health group.

The aim of the project was to teach the participants about the slate heritage and about the Pontio arts centre and library which was originally built using the pennies of the Slate miners. We used the themes of ‘togetherness’ which was a theme adopted by Pontio itself, with the intention of integrating the work with the opening ceremony. The young people formed themselves into bands to create and perform new music, some worked with our artist Tim Cummins and learned how to create a Llechi Ffon, which is a type of Xylophone from Slate. They learned about how to create the different notes and worked with Tim to create different keys using the properties of the materials. Other groups decided to explore visual arts to create a final exhibition. The artwork was displayed in Gwynedd Gallery with the bands that were formed, performing the opening numbers as part of our Ciwdod band tour around Wales and London. The young people created three Llechi phones and learned about the properties of music in terms of learning how different thicknesses and length of slate creates different keys. In addition to artistic merit, the young people still learned new skills and many successfully gained accreditation levels 1 - 3.

..Llechi

Buom yn gweithio gyda Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mangor, i ymgysylltu â phobl ifanc ar draws Gwynedd ac Ynys Môn a chyflwyno prosiect celfyddydau cyfranogol a oedd yn canolbwyntio ar y diwydiannau llechi fel rhan o ddigwyddiadau i ddathlu agor y ganolfan. Buom yn gweithio gydag artist lleol a chanddo brofiad helaeth o greu offerynnau o ddeunyddiau naturiol, a’i herio i wneud offerynnau gyda grwpiau cymunedol ar draws yr ardal, o lechi.

Buom yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau lleol gan gynnwys Clwb Ieuenctid Maesgeirchen, Clwb Ieuenctid Llanberis, a Chlwb Ieuenctid Caernarfon gan ymgysylltu â 80 o bobl ifanc. Buom hefyd yn cydweithio â dwy ysgol leol sef Ysgol Tryfan ac Ysgol Dyffryn Ogwen. Yn olaf, buom yn gweithio gyda grŵp iechyd meddwl Blaenau Ffestiniog. Nod y prosiect oedd dysgu'r cyfranogwyr am y dreftadaeth lechi ac am ganolfan gelfyddydau Pontio a’r llyfrgell a adeiladwyd yn wreiddiol gan ddefnyddio ceiniogau prin y chwarelwyr. Defnyddiwyd y thema 'cwmnïaeth' a oedd yn thema a fabwysiadwyd gan ganolfan Pontio ei hun, gyda'r bwriad o integreiddio'r gwaith â'r seremoni agoriadol. 

Ffurfiodd y bobl ifanc eu hunain yn fandiau i greu a pherfformio cerddoriaeth newydd, gweithiodd rhai gyda'n harlunydd Tim Cumine a dysgu sut i greu Llechi-ffôn, sef math o Seiloffon o Lechen. Buont yn dysgu sut i greu'r gwahanol nodau a gweithio gyda Tim i greu gwahanol gyweiriau gan ddefnyddio priodweddau'r deunyddiau. Penderfynodd grwpiau eraill archwilio'r celfyddydau gweledol i greu arddangosfa derfynol. Arddangoswyd y gwaith celf yn Oriel Gwynedd a bu’r bandiau oedd wedi ffurfio, yn perfformio'r gweithiau agoriadol fel rhan o'n taith band Ciwdod o amgylch Cymru a Llundain. Creodd y bobl ifanc dair enghraifft o Lechi-ffôn gan ddysgu am briodweddau cerddoriaeth o ran dysgu sut mae gwahanol drwch a hyd llechi yn creu cyweiriau gwahanol. Yn ogystal â doniau artistig, roedd y bobl ifanc yn dal i ddysgu sgiliau newydd ac enillodd llawer ohonynt lefelau achredu 1 - 3 yn llwyddiannus.

….