....Cornerstones .. Conglfeini....
….Do you have an idea for an innovative music project? Can you capture the beating heart of a community and find creative new ways to strike a chord with musicians?
Cornerstones is an exciting new development programme for fresh thinking and passionate individuals ready to kickstart a career in community music.
“We want to invest in the creative futures of individuals with exciting new ideas in the field of community music delivery” explains CMW Director, Hannah Jenkins. “If you’re working on an innovative music project, we want to hear from you. Especially if your project idea can capture the beating heart of a community and strike new and creative chords with people.”
The programme will aim to recruit thirteen successful candidates – ten from all ages, plus an additional three under the age of twenty-five – to receive comprehensive training in project management and participatory practice, while developing skills in:
+ Project planning
+ Developing and setting outcomes
+ Budget/ financial management
+ Funding including ACW, trusts and foundations Partnership and networking
+ Business admin
As well as receiving mentor support and networking opportunities, you will also receive funding to help turn your ideas into dynamic and deliverable new projects.
As Hannah concludes, “We want more people to experience arts in a positive way and we see Cornerstones as an investment in the future of participatory music in Wales. An investment that will continue to strengthen grass-roots community music delivery, and nurture creative talent by providing the right conditions for it to flourish.”
Community Music Wales is a national arts charity, working across the creative landscape of Wales.
Cornerstones is funded by Arts Council Wales and the Youth Music Incubator Fund.
..A oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect cerddoriaeth arloesol? Allwch chi grisialu curiad calon cymdeithas a chanfod ffyrdd newydd creadigol o ennyn diddordeb cerddorion?
Mae Conglfeini yn rhaglen ddatblygu gyffrous ac yn gyfle ariannu gan Cerdd Gymunedol Cymru i unigolion brwdfrydig a chanddynt syniadau newydd sy’n barod i gychwyn ar yrfa ym maes cerddoriaeth gymunedol.
“Rydym yn awyddus i fuddsoddi yn nyfodol creadigol unigolion a chanddynt syniadau newydd ym maes cyflwyno cerddoriaeth gymunedol” meddai Hannah Jenkins, Cyfarwyddwr CGC. “Os ydych chi’n gweithio ar brosiect cerddoriaeth arloesol, rydym eisiau clywed gennych chi. Yn arbennig os gall eich syniad am brosiect grisialu curiad calon y gymuned a chanfod ffyrdd newydd creadigol o ennyn diddordeb pobl.”
Rydym yn awyddus i weld ymarferwyr cerddoriaeth deinamig o Gymru, o bob cefndir (18 oed+) yn cofrestru ar y rhaglen er mwyn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr mewn rheoli prosiect ac ymarfer cyfranogol, cymorth i fentoriaid a chyfleoedd rhwydweithio hanfodol. Ac ar yr un pryd ehangu eu sgiliau mewn:
+ Cynllunio prosiect
+ Datblygu a phennu canlyniadau
+ Rheoli cyllideb/rheolaeth ariannol
+ Ariannu gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, ymddiriedolaethau a sefydliadau
+ Partneriaeth a rhwydweithio
+ Gweinyddu
Drwy weithio ochr yn ochr â sefydliadau partner, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn derbyn cyllid i’w helpu i droi eu syniadau yn brosiectau newydd deinamig y gellir eu cyflawni.
Ac i gloi, meddai Hannah “Rydym eisiau i fwy o bobl gael profiad positif o’r celfyddydau ac rydym yn gweld Cornerstones fel buddsoddiad yn nyfodol cerddoriaeth gyfranogol yng Nghymru - buddsoddiad a fydd yn parhau i gryfhau’r ddarpariaeth gerddoriaeth gymunedol ar lawr gwlad, a meithrin doniau creadigol drwy ddarparu’r amodau cywir fel y gall ffynnu.”
Mae Cerdd Gymunedol Cymru yn elusen gelfyddydol genedlaethol, sy'n gweithio ar draws tirwedd greadigol Cymru.
Mae Conglfeini yn cael ei ariannu gan Raglen Llwybrau Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Incubator.
….