....Welsh Language Music Day 2023 - CMW Interview with CHROMA’s Katie Hall .. Dydd Miwsig Cymru 2023 - Cyfweliad CMW gyda Katie Hall o CHROMA....

....Some people start bands to feel cool, and I say do it to feel cool! Being in a band is cool! .. Mae rhai pobl yn dechrau bandiau i deimlo’n cŵl, a dwi’n dweud, ie, gwnewch e i wneud i chi deimlo’n cŵl!....
— Katie Hall, CHROMA

….To celebrate Welsh Language Music Day 2023, we sat down with the wonderful Katie Hall, singer/songwriter for Pontypridd’s CHROMA and tutor on CMW’s Ysgol Roc Sessions, to discuss music, community, and the importance of the Welsh language.

How has helping young people and members of the local community with music-related activities improved you as a musician?

Giving back to young people is something that’s very important to me and working with Community Music Wales has given me an opportunity do that. When helping young people I go into every session with a mindset of, ‘What would I really get out of this if I were a teenager?’ Even down to how would I set up a workshop to get the best out of someone. Transferring my own personal experiences as a musician to that mentor relationship means I can help others identify different pathways into music and encourage them to harness their own creativity, whether musically or through other creative avenues. And collaborating with others always leads to really good ideas and new perspectives for everyone.

How do you believe a community might benefit from engaged and active music services?

Whether you’re a teenager going to Ysgol Roc or someone picking up an instrument for the very first time, you’re going to benefit from being able to go to a place that empowers you to make music. Looking back over my songs is like rereading a diary. I would use music to get something out of my system and while everyone has their own different approach to writing music, being able to find people to listen, support and empathise with you and what you’re trying to do is vital. The beauty of having music services right on your doorstep is that you’re only going to enrich an ecosystem where you have local upcoming bands, keen musicians, venues, mentors to inspire others… you have everything that’s creatively beneficial for a community. And post-pandemic this is probably more vital than ever. Particularly for kids who’ve been stuck in their bedrooms, isolated. Having something outside of school and home, a place they can go to explore their creativity with others is really important.

Language has played a vital role in creating an identity for Wales and Welsh music on an international stage. How has speaking Welsh helped shape or influence your own personal journey as a musician?

When we were starting out, I was working in Clwb Ifor Bach and seeing loads of other acts come through singing in Welsh. It was like a revelation and being young I thought to myself, ‘I could do that and maybe even better than some!’ As a teacher it’s a message I like to hammer home to students. If you’re able to write in Welsh, make sure you add that to your arsenal. Personally, I don’t write any old thing in Welsh because I want to be thoughtful and considerate, and I can almost be more honest. I’m very aware of the fact that when we play Welsh language music, for some members of our audience it could well be the first time they’re hearing it used in such a way. But that’s what makes Dydd Miwsig Cymru so great. It’s showcases what’s out there and raises awareness of just how amazing the Welsh language is, which can only a be a good thing.

Do you have any suggestions or tips for young musicians looking to connect with similarly like-minded people? Has there been a noticeable change in how people connect and form bands in 2023 compared to when you started CHROMA?

If you’re trying to form a band at the age of fifteen, it’s not perfectly natural to not know where to start. And even when you do get going, unfortunately you are going to be a bit rubbish for quite some time. But if you stick with it, you’ll get better. You’ve got to be passionate about music and have that fire in your belly. Go to as many gigs and sessions as you can. Don’t be afraid to ask your mates for help or your music teacher to find you a room to jam in at break-times. Some people start bands to feel cool, and I say do it to feel cool! Being in a band is cool! You just need to find other people who are on the same wavelength as you.

..

I ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2023, eisteddom i lawr gyda’r hyfryd Katie Hall, cantores/cyfansoddwraig gyda CHROMA o Bontypridd a thiwtor Sesiynau Ysgol Roc CGC, i drafod cerddoriaeth, cymuned, a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg.

Sut mae helpu pobl ifanc ac aelodau o'r gymuned leol gyda gweithgareddau sy'n ymwneud â cherddoriaeth wedi eich gwella chi fel cerddor?

Mae rhoi yn ôl i bobl ifanc yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i fi, ac mae gweithio gyda Cerdd Gymunedol Cymru wedi rhoi cyfle i fi wneud hynny. Wrth helpu pobl ifanc dwi’n mynd i mewn i bob sesiwn gyda meddylfryd o, ‘Beth fyddwn i’n cael allan o hyn mewn gwirionedd pe bawn i’n fy arddegau?’ Hyd yn oed i lawr i sut byddwn i’n sefydlu gweithdy i gael y gorau allan o rywun. Mae trosglwyddo fy mhrofiadau personol fel cerddor i’r berthynas mentora yna yn golygu dwi’n gallu helpu nhw i weld llwybrau gwahanol i gerddoriaeth a’u hannog i harneisio eu creadigrwydd eu hunain, boed yn gerddorol neu drwy mynegiant creadigol arall. Mae cydweithio ag eraill bob amser yn arwain at syniadau da iawn a safbwyntiau newydd i bawb.

Sut ydych chi’n credu y gallai cymuned elwa ar wasanaethau cerddoriaeth egnïol a gweithgar?

Dim ots os chi yn eich arddegau ac yn mynd i Ysgol Roc neu’n rhywun sy’n pigo lan offeryn am y tro cyntaf erioed, chi’n mynd i elwa o allu mynd i le sy’n eich grymuso chi i wneud cerddoriaeth. Mae edrych yn ôl dros fy nghaneuon fel ail-ddarllen dyddiadur. Bydde fi’n defnyddio cerddoriaeth i gael rhywbeth allan o fy system ac er bod gan bawb eu dull gwahanol eu hunain o ysgrifennu cerddoriaeth, mae gallu dod o hyd i bobl i wrando, cefnogi a chydymdeimlo â chi a'r hyn rydych chi'n ceisio gwneud yn hanfodol. Y fantais o gael gwasanaethau cerddoriaeth ar garreg eich drws yw eich bod ond yn mynd i gyfoethogi ecosystem lle mae na fandiau lleol newydd yn sefydlu, cerddorion brwd, llefydd i berfformio, mentoriaid i ysbrydoli eraill… mae ganddoch chi bopeth sydd o fudd creadigol i’r gymuned. Ac ar ôl y pandemig mae'n debyg bod hyn yn bwysicach nag erioed, yn enwedig i blant sydd wedi bod yn sownd yn eu hystafelloedd gwely, yn ynysig. Mae cael rhywbeth y tu allan i'r ysgol a'r cartref, lle mae nhw’n gallu mynd iddo i archwilio eu creadigrwydd gydag eraill, yn bwysig iawn.

Mae iaith wedi chwarae rhan hanfodol wrth greu hunaniaeth i Gymru a cherddoriaeth Gymreig ar lwyfan rhyngwladol. Sut mae siarad Cymraeg wedi helpu i siapio neu ddylanwadu ar eich taith bersonol chi fel cerddor?

Pan oedden ni'n cychwyn, roeddwn i'n gweithio yng Nghlwb Ifor Bach ac yn gweld llwyth o artistiaid a bandiau oedd yn canu yn Gymraeg yn dod trwy. Roedd e fel datguddiad i fi, a gan mod i‘n ifanc ro’n i’n meddwl i fy hun, ‘Galla’i wneud hwn a falle hyd yn oed yn well na rhai!’ Fel tiwtor mae’n neges dwi’n hoffi pwysleisio i fyfyrwyr. Os ydych chi’n gallu ysgrifennu yn Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ychwanegu hynny at eich arfogaeth greadigol. Yn bersonol, dw’i ddim yn ysgrifennu unrhyw hen beth yn Gymraeg oherwydd dw’i eisiau bod yn feddylgar ac ystyriol, a dwi bron yn gallu bod yn fwy onest yn Gymraeg. Dw i’n ymwybodol iawn o’r ffaith pan da ni’n chwarae cerddoriaeth Gymraeg, i rai aelodau o’n cynulleidfa mae’n ddigon posib mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ei glywed yr iaith yn cael ei ddefnyddio yn y fath fodd. Ond dyna sy’n gwneud Dydd Miwsig Cymru mor wych. Mae’n arddangos yr hyn sydd ar gael ac yn codi ymwybyddiaeth o ba mor anhygoel yw’r Gymraeg, a gall hwnna ond fod yn beth da.

Oes gen ti unrhyw awgrymiadau neu tips ar gyfer cerddorion ifanc sydd am gysylltu â phobl o'r un meddylfryd? Wyt ti wedi gweld newid amlwg yn y ffordd mae pobl yn cysylltu ac yn ffurfio bandiau yn 2023 o gymharu â phan ddechreuoch chi CHROMA?

Os chi'n ceisio ffurfio band yn bymtheg oed, mae'n gwbl naturiol peidio gwybod ble i ddechrau. A hyd yn oed pan chi'n dechrau arni, chi'n mynd i fod ychydig yn ‘rubbish’ am amser yn anffodus. Ond os byddwch chi'n cadw ato, byddwch chi'n gwella. Mae'n rhaid i chi fod yn angerddol am gerddoriaeth a chael y tân yna yn eich bol. Ewch i gymaint o gigs a sesiynau a chi’n gallu. Peidiwch bod ofn gofyn i'ch ffrindiau am help neu'ch athro cerdd i ddod o hyd i ystafell i chi jamio ynddi yn ystod amser egwyl. Mae rhai pobl yn dechrau bandiau i deimlo'n cŵl, a dwi'n dweud, ie, gwnewch e i wneud i chi deimlo'n cŵl! Mae bod mewn band yn cŵl! Ma fe dim ond yn fater o ddod o hyd i bobl eraill sydd ar yr un donfedd â chi.

….

NewsGuest User