….Theatr Fforwm
In 2016 CMW received funding from the South Wales Police and Crime Commissioner which allowed us the opportunity to work with victims of crime in South Wales.
We collaborated with Theatr Fforwm and worked in partnership with Women’s Aid groups in South Wales to support young people who were either victims of or had witnessed domestic abuse.
Theatr Fforwm gives the audience a unique opportunity to take part in or change the outcomes of a short play, allowing them to stop scenes (usually during a scene where a character is being oppressed) and to suggest different ways in which the character can react or replace the actor with themselves.
We began the project with a week-long Theatr Forwm facilitator training course in Cardiff where participants investigated the theory and practice of Theatr Forwm. Several simple games and exercises centred on trust, confidence and group integration were introduced. Working in partnership with Women’s Aid, we worked with some of their participants as well as others to build on their skill set.
The week culminated with a performance of the FORUM THEATRE pieces devised by the group to an invited audience of friends. The performance went very well and discussed issues from “Brexit” to domestic violence. The project then moved on to workshops with participants who had witnessed domestic violence and the project allowed them the freedom to discuss their experiences through a highly creative and collaborative means.
..Theatr Fforwm
Yn 2016 derbyniodd CGC gyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a ganiataodd inni gael cyfle i weithio gyda dioddefwyr troseddu yn Ne Cymru.
Buom yn gweithio gyda Theatr Fforwm ac mewn partneriaeth â grwpiau Cymorth i Fenywod yn Ne Cymru i gefnogi pobl ifanc a oedd un ai’n ddioddefwyr trais yn y cartref neu’n dyst iddo.
Mae Theatr Fforwm yn rhoi cyfle unigryw i’r gynulleidfa gymryd rhan mewn drama fer neu newid ei chanlyniadau, ac yn caniatáu iddynt stopio golygfeydd (fel arfer yn ystod golygfa pan yw un o’r cymeriadau yn dioddef gorthrwm) ac awgrymu ym mha ffyrdd gwahanol y gallai’r cymeriad ymateb neu hyd yn oed gymryd lle’r actor eu hunain.
Gwnaethom ddechrau ar y prosiect drwy gynnal cwrs hyfforddi wythnos ar gyfer hwyluswyr Theatr Fforwm yng Nghaerdydd lle'r oedd y cyfranogwyr yn archwilio theori ac ymarfer Theatr Fforwm. Cyflwynwyd nifer o gemau ac ymarferion syml a oedd yn canolbwyntio ar ymddiriedaeth, hyder ac integreiddio grŵp. Mewn partneriaeth â Cymorth i Fenywod, buom yn gweithio â rhai o’u cyfranogwyr yn ogystal ag eraill i ddatblygu ac ehangu eu set sgiliau.
Fel uchafbwynt i’r wythnos cafwyd perfformiad o ddarnau o THEATR FFORWM oedd wedi cael eu dyfeisio gan y grŵp, a hynny o flaen cynulleidfa o gyfeillion a wahoddwyd yn arbennig. Roedd y perfformiad yn un hynod o lwyddiannus a thrafodwyd materion a oedd yn amrywio o “Brexit” i drais yn y cartref. Symudodd y prosiect ymlaen wedyn at weithdai gyda chyfranogwyr a oedd wedi bod yn dyst i drais yn y cartref a rhoi rhyddid iddynt drafod eu profiadau drwy ddulliau hynod greadigol a thrwy gydweithio.
….
(Any videos or photos & funder logos)