….Training

Our proudest achievement throughout nearly 30 years has been the evolution of our training programme, which continues to develop to meet the changing needs of communities and artists. Since our inception, CMW has strived to ensure a high standard of delivery and sharing of best practise. CMW was the first organisation in Wales to formally recognise the achievements of participants in community music by writing accompanying accreditation units. For over 25 years, we have had an excellent success rate, with over 5,000 musicians having gone through the system. Our tutors are skilled musicians who through the training programme, have converted their skills into a credible employment opportunity. Tutors range in age and gender but all are committed to using music as a way of engaging people to make a real difference and contributing to the creative economy in Wales. After completing the community music training and placement time many tutors have gone on to work for us, while many also establishing themselves as an independent freelance tutor, working for a large variety of other organisations across Wales.

Resources

Links to downloads of Resource pack and new Training pack.


Any policies or procedures we think might be useful to share


Maybe tutor conduct form?

..

Hyfforddiant

Y cyflawniad yr ydym yn ymfalchïo fwyaf ynddo yn ystod cyfnod o 30 mlynedd yw datblygiad ein rhaglen hyfforddi, sy'n parhau i ddatblygu i gwrdd ag anghenion newidiol cymunedau ac artistiaid. Ers y dechrau, mae GGC wedi ymdrechu i sicrhau safon uchel o ddarpariaeth ac o rannu arfer gorau. CGC oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i gydnabod cyflawniadau cyfranogwyr yn ffurfiol mewn cerddoriaeth gymunedol drwy ysgrifennu unedau achredu cysylltiedig. Ers dros chwarter canrif, mae ein cyfradd lwyddiant wedi bod yn ardderchog, gyda dros 5,000 o gerddorion wedi mynd drwy'r system. Mae ein tiwtoriaid yn gerddorion medrus sydd, drwy'r rhaglen hyfforddi, wedi trawsnewid eu sgiliau'n gyfleoedd cyflogaeth credadwy. Maen nhw’n amrywio o ran oedran a rhyw ond mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i ddefnyddio cerddoriaeth fel ffordd o ymgysylltu â phobl i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chyfrannu at yr economi greadigol yng Nghymru. Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant a chyfnod o leoliad gwaith mae llawer o diwtoriaid wedi mynd yn eu blaenau i weithio i ni, tra bod llawer hefyd yn sefydlu eu hunain fel tiwtoriaid llawrydd annibynnol, gan weithio i amrywiaeth eang o sefydliadau eraill ledled Cymru.

….

(Links)