….Ty canna..Ty canna….

….Through a long-standing relationship with Cardiff Council’s Mental Health Outreach programme Ty Canna, we are delivering weekly song writing sessions with an amazing group of adults living with mental health conditions. This project has been running for over a year and throughout that time we have seen them write and perform some fantastic music. Both our freelance tutor Neil White and the participants are currently working together online throughout the Covid period through small group sessions. This project is funded by Awards for All who have enabled us to deliver these sessions.

Quotes from participants include:

“I enjoy it. It relieves stress through self-expression”

“I get a lot of pleasure out of it. It brings me out of myself and it is an opportunity to socialise with others. It gives me purpose”

“I’m made to feel valued as a group member. It takes my mind off of other things. Neil the tutor is really good- he really makes me feel at ease.”

“I’ve made new friends through the group. It’s made me feel more confident”

“I find it relaxing and enjoyable. It helps with my mental health.”

“I enjoy the social aspect of the group. I meet new people”

“I like meeting new people- it’s good company. Enjoy listening to people playing instruments”

“It has brought back good memories through singing songs”

..

Diolch i’r berthynas sydd gennym ers amser maith â Tŷ Canna, sef rhaglen allgymorth Iechyd Meddwl Cyngor Caerdydd, rydym yn cynnal sesiynau ysgrifennu caneuon bob wythnos gyda grŵp arbennig iawn o oedolion sy’n byw â chyflyrau iechyd meddwl. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn rhedeg am fwy na blwyddyn a thrwy gydol yr amser hwnnw rydym wedi eu gweld yn ysgrifennu ac yn perfformio cerddoriaeth ryfeddol. Ar hyn o bryd mae Neil White, ein tiwtor llawrydd a’r cyfranogwyr yn cydweithio ar-lein drwy’r cyfnod Covid mewn sesiynau grwpiau bychain. Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Arian i Bawb sydd wedi caniatáu inni gynnal y sesiynau.

Dyma rai o sylwadau’r rhai a fu’n cymryd rhan ynddynt:

“Rwy’n mwynhau hyn. Mae gallu mynegi fy hun yn cael gwared o straen”

“Rwy’n cael llawer o bleser wrth wneud hyn. Mae’n dod â fi allan o fi fy hun ac yn gyfle i gymdeithasu gydag eraill. Mae’n rhoi pwrpas i mi”

“Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi fel aelod o grŵp. Mae’n tynnu fy meddwl oddi ar bethau eraill. Mae Neil y tiwtor yn wirioneddol dda – mae o’n gwneud imi deimlo’n gyfforddus.”

“Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd drwy’r grŵp. Mae wedi gwneud imi deimlo’n fwy hyderus”

“Rwy’n credu ei fod yn fy ymlacio ac rwy’n cael mwynhad ohono. Mae’n helpu fy iechyd meddwl.” 

“Rwy’n mwynhau’r elfen gymdeithasol yn y grŵp. Rydw i’n cyfarfod pobl newydd”

“Rydw i’n hoffi cyfarfod pobl newydd- mae’r gwmnïaeth yn dda. Mwynhau gwrando ar bobl yn chwarae offerynnau”

“Mae wedi dod ag atgofion da yn ôl imi drwy ganu caneuon”

….