….Board of Trustees

Community Music Wales has a Board of Trustees who meet quarterly and are responsible for the strategic direction and policy development of the charity.

The members are from a variety of professional backgrounds relevant to the work of the charity. An observer from the Arts Council of Wales also sits on the Board but has no voting rights.

The Executive Officer of the Board of Trustees is the Director who is responsible for the effective management and strategic development of Community Music Wales in accordance with its constitution and aims and objectives.

Nick Corrigan (Chair) – Nick has been working professionally within the arts for the last forty years and has vast experience with community trustee boards having spent time as Vice Chair for Cardiff’s Third Sector Council; The 1910 Trust and Interim Chair of Green Willow Foundation. Recently he sat on numerous strategic boards for the Welsh Government (Educational Curriculum Review and Mental Health); Cardiff Councils’ Scrutiny Committee and two schools in South Wales. His specialist experience is in HR, fundraising and external public relations and his knowledge includes arts development and charity governance across the UK. Nick also ran drug and alcohol services for children across North Wales for CAIS and was responsible for substance misuse education and prevention. As well as being a published author of several books that focus on substance misuse, he also regularly speaks at international conferences on the criminal justice system and contextual safeguarding.

Alicia Stark - Alicia holds a PhD (Musicology) and an MA (Music, Culture, and Politics) from Cardiff University, and a Bachelor degree in Music Education from Shorter University in Rome, Georgia, USA.  Her academic research focusses on identity construction in popular music, specifically in representations of gender and ethnicity in cartoon, hologram, and puppet bands.  Born in Canada and raised in Atlanta, Georgia, Alicia has been active in music education for more than 10 years in both the US and the UK.  She has directed, music directed, or produced over 40 musical theatre and theatre productions for participants of all ages, including award-winning productions of Cotton Patch Gospel, Oedipus Rex, and Lebensraum.  Recently, she has begun working with Tenovus as the choir leader for the Abergavenny Sing With Us Choir.

Elizabeth Bryan - Elizabeth is a third sector project manager who has managed youth, family, and education based programmes in Wales and across the UK. This has included managing grant funding from Big Lottery Fund, Children in Need, and Welsh Government, as well as developing policies on safeguarding, quality assurance, and volunteer management. An enthusiastic amateur violinist and singer, Elizabeth is a member of a symphony.

John Williams - John has a business which provides consultancy services to UK Building Societies, specifically related to digital channels and IT procurement. Prior to this he was Director of IT for Principality Building Society. He is also on the board of a Cheshire-based graphic design business.

Rebecca Richards - Rebecca is an Chartered Public Finance Accountant (CIPFA)  whose current role is the Director of the NHS Wales Finance Academy, which develops professional skills and operational practice across the finance functions within NHS Wales. Rebecca started her career with NHS Wales as an A level entrant trainee in 1990 and has since worked in healthcare organisations across South Wales, including holding positions of Finance Director / Deputy Chief Executive of two statutory NHS Wales organisations for over 15 years, leading their financial strategy and delivery.

Tanya Walker - Tanya is a professional choir leader, classical musician and singer-songwriter with over 38 years of experience based in Brecon. She leads four community choirs in Wales and also works as a vocal and performance coach. For 22 years Tanya has been SONIG Youth Music Industry Co-ordinator for Rhondda Cynon Taf County Borough Councils’ Arts Service, supporting young people aged 8 – 25 into music & the creative industries. When not leading choirs or in her SONIG role, Tanya continues singing, song writing & composing, often including her choirs in her haunting, emotive, piano driven performances.

..

Bwrdd Ymddiriedolwyr

Mae gan Cerdd Gymunedol Cymru Fwrdd Ymddiredolwyr sy’n cyfarfod yn chwarterol ac sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol a’r gwaith o ddatblygu polisi’r elusen.

Daw’r aelodau o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol sy’n berthnasol i waith yr elusen. Mae arsyllydd o Gyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn eistedd ar y Bwrdd ond nid oes ganddo’r hawl i bleidleisio.

Swyddog Gweithredol y Bwrdd Ymddiriedolwyr yw’r Cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am reolaeth effeithiol a datblygiad strategol Cerdd Gymunedol Cymru yn unol â’i gyfansoddiad a’i nodau ac amcanion.

Nick Corrigan (Cadeirydd) - Mae Nick wedi bod yn gweithio'n broffesiynol yn y celfyddydau am y deugain mlynedd diwethaf ac mae ganddo brofiad helaeth o fyrddau ymddiriedolwyr cymunedol ar ôl treulio cyfnodau fel Is-gadeirydd Cyngor Trydydd Sector Caerdydd; Ymddiriedolaeth 1910 ac fel Is-gadeirydd Sefydliad Green Willow. Yn ddiweddar, bu ar nifer o fyrddau strategol Llywodraeth Cymru (Adolygiad o'r Cwricwlwm Addysg ac Iechyd Meddwl); Pwyllgor Craffu Cynghorau Caerdydd a dwy ysgol yn Ne Cymru. Mae ganddo brofiad arbenigol ym maes adnoddau dynol, codi arian a chysylltiadau cyhoeddus allanol ac mae ei wybodaeth yn cynnwys datblygu'r celfyddydau a llywodraethu elusennau ledled y DU. Roedd Nick hefyd yn rhedeg gwasanaethau cyffuriau ac alcohol i blant drwy Ogledd Cymru ar gyfer CAIS ac yn gyfrifol am addysg ac atal camddefnyddio sylweddau. Yn ogystal â bod yn awdur nifer o lyfrau sy'n canolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau, mae hefyd yn siarad yn rheolaidd mewn cynadleddau rhyngwladol ar y system cyfiawnder troseddol a diogelu cyd-destunol.

Alicia Stark - Mae gan Alicia Ddoethuriaeth (Cerddoleg) a gradd Meistr (Cerddoriaeth, Diwylliant, a Gwleidyddiaeth) o Brifysgol Caerdydd a BA mewn Addysg Cerddoriaeth o Brifysgol Shorter, Georgia, UDA.  Mae ei hymchwil academaidd yn canolbwyntio ar lunio hunaniaeth mewn cerddoriaeth boblogaidd, yn benodol mewn cynrychioliadau o ryw ac ethnigrwydd mewn cartwnau, hologramau a bandiau pypedau. Mae Alicia, a aned yng Nghanada a’i magu yn Atlanta, Georgia, wedi bod yn weithgar ym maes addysg cerddoriaeth am fwy na 10 mlynedd yn yr UDA ac yn y DU. Mae hi wedi cyfarwyddo, cyfarwyddo cerddoriaeth neu gynhyrchu mwy na 40 o gynyrchiadau theatr gerdd a theatr ar gyfer cyfranogwyr o bob oedran, gan gynnwys cynyrchiadau arobryn Cotton Patch Gospel, Oedipus Rex a Lebensraum.  Yn ddiweddar mae hi wedi dechrau gweithio gyda Tenovus fel arweinydd côr ar gyfer Côr Sing With Us Y Fenni.

Elizabeth Bryan – Mae Elizabeth yn rheolwr prosiect trydydd sector sydd wedi rheoli rhaglenni sy’n seiliedig ar ieuenctid, teuluoedd ac addysg yng Nghymru ac ym mhob rhan o’r DU. Mae hyn yn cynnwys rheoli cyllid grant gan Gronfa’r Loteri Fawr, Plant mewn Angen a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â datblygu polisïau ar ddiogelu sicrwydd ansawdd, a rheoli gwirfoddolwyr. Mae Elizabeth yn gantores ac yn feiolinydd amatur brwdfrydig, ac yn aelod o symffoni.

John Williams  - Mae gan John fusnes sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori i Gymdeithasau Adeiladu'r DU, sy'n ymwneud yn benodol â sianelau digidol a chaffael TG. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr TG ar gyfer Cymdeithas Adeiladu'r Principality. Mae hefyd yn aelod o fwrdd busnes dylunio graffig yn Swydd Gaer.

Rebecca Richards – Mae Rebecca yn Gyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig (CIPFA) ac ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Academi Cyllid GIG Cymru, sy'n datblygu sgiliau proffesiynol ac ymarfer gweithredol ar draws y swyddogaethau cyllid o fewn GIG Cymru. Dechreuodd Rebecca ei gyrfa gyda GIG Cymru fel hyfforddai lefel Safon Uwch ym 1990 ac ers hynny mae wedi gweithio mewn sefydliadau gofal iechyd ledled De Cymru, ac wedi cyflawni swyddi Cyfarwyddwr Cyllid / Dirprwy Brif Weithredwr dau sefydliad statudol GIG Cymru am fwy na phymtheng mlynedd, gan arwain eu strategaeth a'u darpariaeth ariannol.

Tanya Walker - Mae Tanya yn arweinydd côr proffesiynol, cerddor clasurol a chantores-gyfansoddwraig gyda dros 38 mlynedd o brofiad wedi’i lleoli yn Aberhonddu. Mae’n arwain pedwar côr cymunedol yng Nghymru ac mae hefyd yn gweithio fel hyfforddwr llais a pherfformiad. Ers 22 mlynedd mae Tanya wedi bod yn Gydlynydd Diwydiant Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG ar gyfer Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn cefnogi pobl ifanc rhwng 8 a 25 oed i fyd cerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol. Pan nad yw’n arwain corau neu yn ei rôl SONIG, mae Tanya’n parhau i ganu, ysgrifennu caneuon a chyfansoddi, yn aml yn cynnwys ei chorau mewn perfformiadau iasol ac emosiynol dan arweiniad y piano.

….