UNO

….2020 saw the start of an exciting new Children in Need funded project, providing singing and music sessions for young people living in the South Wales Valleys. This project is targeted at young people who live in socially and economically disadvantaged communities, and it has come at a key moment when the Covid 19 pandemic has had a severe impact on the mental health and emotional wellbeing of young people.

Through consultation pre-Covid, we identified some concerns around an increasing mental health problem affecting young people including low confidence, low future aspirations and feelings of isolation. So, in partnership, we developed music engagement opportunities designed to increase self-esteem, promote personal development and achieve positive goals, as a positive way to support young people. The impact of living with months of lockdown and social restrictions in 2020 has meant that this project has become even more valuable as a means of tackling social isolation and supporting emotional wellbeing.

This project was started in early 2020, however due to Covid 19, we built our work with young people online through music 121 sessions and mentoring.

Now a year into the project, we have some amazing work created by the young people, a sample of which you can see here:

Funded by BBC Children in Need

..

Yn 2020 dechreuwyd ar brosiect newydd cyffrous wedi’i ariannu gan Plant Mewn Angen, a oedd yn darparu sesiynau canu a cherddoriaeth i bobl ifanc oedd yn byw yng Nghymoedd De Cymru. Mae’r prosiect hwn yn targedu pobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau cymdeithasol ac economaidd difreintiedig, ac mae wedi dod ar adeg allweddol pan gafodd pandemig Covid 19 effaith ddifrifol ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl ifanc.

Drwy gynnal ymgynghoriad cyn-Covid, gwnaethom nodi rhai pryderon ynghylch problem iechyd meddwl gynyddol oedd yn effeithio ar bobl ifanc. Rhai o’r rhain oedd ychydig iawn o hyder, ac ychydig o ddyheadau ar gyfer y dyfodol a theimladau o fod yn ynysig. Felly, mewn partneriaeth, gwnaethom ddatblygu cyfleoedd ymgysylltu â cherddoriaeth gyda’r bwriad o gynyddu hunanhyder, hyrwyddo datblygiad personol a chyflawni targedau positif, fel ffordd gadarnhaol o gefnogi pobl ifanc. Mae’r effaith o fyw misoedd o gyfnod clo a chyfyngiadau cymdeithasol yn 2020 wedi golygu fod y prosiect hwn wedi dod hyd yn oed yn fwy gwerthfawr fyth fel ffordd o fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol ac o gefnogi lles emosiynol.

Dechreuwyd ar y prosiect hwn yn gynnar yn 2020, ond oherwydd Covid 19, cafodd ein gwaith â phobl ifanc ei ddatblygu ar-lein drwy gynnal sesiynau cerddoriaeth un-i-un a mentora.

Bellach, a hithau’n flwyddyn ers dechrau’r prosiect, mae gennym waith rhyfeddol wedi cael ei greu gan y bobl ifanc hyn, a gallwch weld enghraifft ohono yma: 

Ariannwyd gan BBC Plant mewn Angen

….