….Impact..Effaith….

….Music enriches lives; it can be liberating, exciting, soothing, joyful. The act of creating music is in itself empowering.

Why music?

We believe that music can impact the lives of everyone, even the hardest to reach individuals. It can have a highly positive effect when delivered in a sensitive and person-centred way, by trained community music tutors and practitioners.

Music is suitable for all groups – all ages and abilities. Activity can be tailored to capture the imagination and interest of all people. Music is not just for people who are, or want to become, musicians; it provides new opportunities for people to learn and to socialise. Using community music activities with groups can cross cultural divides and bridge age gaps whilst building cohesion, and in doing so bring communities together. The aim of community music is not necessarily about the end product of a musical piece but the journey to get there. Along the way participants can increase their confidence, levels of basic skills, community cohesion and strengthen community ties, as well as develop practical skills.

Music is easy to combine within larger creative projects using other art forms. Music activity can be linked to visual arts such as, film making, animation, dance and theatre.

Community music participation can:

• Increase confidence, self-esteem and develop positive aspirations

• Provide more opportunity for creativity and imaginative play

• Support the development of basic skills

• Creative community cohesion

• Enable participants to learn new skills

• Increase opportunities for the development of team work and collaborative thinking

• Increase awareness of work potential in the creative industries

We know that music has proven to be an excellent way of engaging with disadvantaged communities and those with mental health issues. In the Hand in Hand, Arts Based Activities and Regeneration 2008 (University of Glamorgan) study, they clearly identify that "arts based practice can connect diverse groups in the community, promote inter-generational activity and foster social cohesion." In addition to supporting those with mental health issues by improving community relations, the study also states that skills acquired in arts activity are far greater than the skills associated with the art form and "significantly contribute to the employability and job-readiness of individuals, their well-being and mental health... [and in doing so] contribute directly to the economic objectives of regeneration."

Another study reported in Nature Neuroscience, found that the chemical was released at moments of peak enjoyment. Researchers from McGill University in Montreal tested levels of dopamine and found that they were up to 9% higher when volunteers were listening to music they enjoyed. The report authors say it's significant in proving that humans obtain pleasure from music.

Published on the Very Well Mind website – peer reviewed, research claims many benefits of music on emotional wellbeing. Part of this study in 2015 reviewed the effects of music on pain management found that patients who listened to music before, during, or even after surgery experienced less pain and anxiety than those who did not listen to music. Links to more claims can be found in the links below.

..

Mae cerddoriaeth yn cyfoethogi bywydau; mae’n gallu rhyddhau, cyffroi, lleddfu a rhoi pleser. Mae’r weithred o greu cerddoriaeth ynddi hi ei hun yn grymuso.

Pam cerddoriaeth? 

Rydym yn credu fod cerddoraieth yn gallu effeithio ar fywydau pawb, hyd yn oed yr unigolion hynny sydd fwyaf anodd eu cyrraedd. Gall ddylanwadu mewn ffordd hynod bositif pan yw’n cael ei chyflwyno mewn ffordd sensitif sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a hynny gan diwtoriaid ac ymarferwyr cerddoriaeth gymunedol hyfforddedig.

Mae cerddoriaeth yn addas ar gyfer pob grŵp – pob oedran a gallu. Gellir teilwra gweithgaredd i ddal dychymyg a diddordeb pawb. Nid yw cerddoriaeth yn unig ar gyfer pobl sy'n gerddorion, neu rai sydd eisiau dod yn gerddorion; mae'n rhoi cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a chymdeithasu. Gall defnyddio gweithgareddau cerddoriaeth gymunedol gyda grwpiau groesi rhaniadau diwylliannol a phontio’r bylchau rhwng oedrannau gan feithrin cydlyniant, ac wrth wneud hynny dod â chymunedau at ei gilydd. Nid yw nod cerddoriaeth gymunedol o reidrwydd yn ymwneud â chynnyrch terfynol darn cerddorol, ond yn hytrach y daith i gyrraedd yno. Ac ar y ffordd gall cyfranogwyr gynyddu eu hyder, lefelau sgiliau sylfaenol, cydlyniant cymunedol a chryfhau eu cysylltiadau cymunedol, yn ogystal â datblygu sgiliau ymarferol.  

Mae’n hawdd cyfuno cerddoriaeth o fewn prosiectau creadigol mwy sy’n defnyddio ffurfiau celfyddydol eraill. Gellir cysylltu gweithgaredd cerddorol â’r celfyddydau gweledol megis creu ffilm, animeiddio, dawns a theatr.

Mae cyfranogiad cerddoriaeth gymunedol yn gallu:

  • Cynyddu hyder, hunan-barch a datblygu dyheadau positif

  • Darparu mwy o gyfle ar gyfer creadigrwydd a chwarae dychmygus

  • Cefnogi datblygiad sgiliau sylfaenol

  • Cynorthwyo cydlyniant cymunedol creadigol

  • Caniatáu i gyfranogwyr ddysgu sgiliau newydd  

  • Cynyddu cyfleoedd ar gyfer datblygu gwaith tîm a syniadau cydweithredol

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r posibiliadau gwaith o fewn y diwydiannau creadigol

Gwyddom fod cerddoriaeth yn cael ei chydnabod fel ffordd ardderchog o ymgysylltu â chymunedau difreintiedig a rhai â phroblemau iechyd meddwl. Yn astudiaeth Hand in Hand, Arts Based Activities and Regeneration 2008 (Prifysgol Morgannwg), nodir yn glir "arts based practice can connect diverse groups in the community, promote inter-generational activity and foster social cohesion." Yn ogystal â chefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl drwy wella cysylltiadau cymunedol, mae'r astudiaeth hefyd yn nodi bod sgiliau a ddysgwyd yn ystod gweithgaredd celfyddydol yn llawer mwy na'r sgiliau sy'n gysylltiedig â'r gelfyddyd ei hun ac "significantly contribute to the employability and job-readiness of individuals, their well-being and mental health... [and in doing so] contribute directly to the economic objectives of regeneration."

Darganfu astudiaeth arall a adroddwyd yn Nature Neuroscience fod y cemegyn yn cael ei ryddhau ar adegau pan oedd mwynhad ar ei fwyaf. Bu ymchwilwyr o Brifysgol McGill ym Montreal yn cynnal profion ar lefelau dopamin a chanfod eu bod hyd at 9% yn uwch pan oedd gwirfoddolwyr yn gwrando ar gerddoriaeth yr oeddent yn ei mwynhau. Mae awduron yr adroddiad yn dweud fod hyn yn arwyddocaol wrth brofi fod pobl yn cael pleser o gerddoriaeth. 

Mae ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid a gyhoeddwyd ar wefan Verywell Mind yn honni fod gan gerddoriaeth sawl mantais o ran lles emosiynol. Roedd rhan o’r astudiaeth hon yn 2015 yn adolygu effeithiau cerddoriaeth ar reoli poen a darganfu bod cleifion oedd yn gwrando ar gerddoriaeth cyn, yn ystod neu hyd yn oed ar ôl llawdriniaeth yn teimlo llai o boen a gorbryder na’r rhai nad oeddynt yn gwrando ar gerddoriaeth. Gellir darganfod dolenni rhagor o honiadau isod.

….